Gwlad i mi a Gwlad i ti… Maniffesto ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
ARWENWYR Y PLEIDIAU'N CEFNOGI YMGYRCH I ATAL YMGYRCHU NEGYDDOL AR FATER CEISWYR LLOCHES A FFOADURIAID.
Mae arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru yn cefnogi ymgyrch yn gofyn i ymgeiswyr llywodraeth leol ddatgan na fyddant yn ymgyrchu'n negyddol ar fater lloches a ffoaduriaid wrth ymgyrchu ar gyfer yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai. Darllenwch mwy yma.
AELODAU NEWYDD Y CYNULLIAD YN ESTYN CEFNOGAETH I'R RHEINI SY'N CEISIO AM DDIOGELWCH RHAG ERLEDIGAETH.
Fe dderbyniodd y Maniffesto Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches gefnogaeth enfawr ar draws y pleidiau gwleidyddol ac ar draws Cymru. Fe estynnwyd cefnogaeth mwy na 100 o ymgeiswyr i'r 5 prif ymrwymiad yn y cyfnod cyn Etholiadau ddoe (Iau) i'r Cynulliad. Darllenwch mwy yma.
DICTER WRTH I'R BNP HERWGIPIO CONSENSWS PLEIDIOL AR FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES.
Heddiw, ymatebodd cynrychiolwyr sefydliadau ffoaduriaid a grwpiau ymgyrchu yng Nghymru gyda dicter wrth i'r BNP ddefnyddio ymgyrch sydd wedi'i chefnogi'n eang i ledaenu casineb yng Nghymru. Darllenwch mwy yma.
GOSOD GWLEIDYDDIAETH O'R NEILLTU I "GADW CROESO" I FFOADURIAID A CHEISWYR LLOCHES.
Mewn arddangosfa o unoliaeth i'w chroesawu, daw'r pedair plaid wleidyddol at ei gilydd heddiw (Dydd Mercher) i addunedu i wella bywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Darllenwch mwy yma.
Campaign design by Cactus, website development and hosting Core Web Design