Gwlad i mi a Gwlad i ti… Maniffesto ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Neidio at y cynnwys

Mwy o Wybodaeth

Pwy sy'n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches?

Ceiswyr lloches: pobl sy'n ffoi rhag erledigaeth yn eu mamwlad, sydd wedi cyrraedd yn y DU, wedi cyflwyno eu hunain i'r awdurdodau ac wedi arfer eu hawl cyfreithiol i wneud cais am loches.

Ffoaduriaid: pobl y mae'r llywodraeth yn cydnabod bod angen eu diogelu yn y DU oherwydd petaent yn dychwelyd i'w mamwlad gallent fod mewn perygl o gael eu herlid oherwydd eu hil, crefydd, cenedl, aelodaeth o grŵp cymdeithasol, neu farn wleidyddol neilltuol.

Ailadeiladu bywyd mewn gwlad newydd

Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches wedi cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi a gwynebant her anodd wrth ailadeiladu eu bywyd mewn gwlad newydd. Mae'r rhelyw o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cyrraedd gyda braidd ddim o ran cysylltiadau teuluol ac maent yn anghyfarwydd â'r cyfundrefnau a'r sefydliadau. Mae'n bosibl fod ganddynt gymwysterau, sgiliau a phrofiad gwaith nad ydynt yn cael eu cydnabod yma a'u bod yn wynebu anffafriaeth.

Byw mewn tlodi

Mae dros 95% o'r bobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru yn derbyn llety a chynhaliaeth gan Wasanaethau Cymorth Lloches Cenedlaethol a heb hyn byddent yn hollol anghenus. Ni chaniateir i geiswyr lloches weithio yn ystod 12 mis cyntaf eu cais. Gorfodir iddynt fod yn ddibynnol ar gymorth y wlad, sydd wedi ei bennu 30% yn is na'r cymhorthdal incwm arferol. Mae llawer yn byw mewn tlodi ac yn dioddef gwaeledd iechyd a newyn.

Daw ceiswyr lloches i'r DU i geisio amddiffynfa rhag rhyfel ac erledigaeth. Ni ddônt i'r DU i hawlio budd-daliadau ac, mewn gwirionedd, ychydig a wyddant am y gyfundrefn lloches cyn cyrraedd yma.

Nid oes gan y mwyafrif mawr o geiswyr lloches a gaiff eu cais wedi'i wrthod hawl i unrhyw ffynhonnell incwm gyfreithlon. Maent yn hollol anghenus ac yn ddibynnol ar elusen cyfeillion, teulu neu grwpiau cymunedol. Mae nifer bychan o'r ceiswyr lloches a wrthodir yn gymwys i dderbyn cymorth yn ôl Adran 4 Deddf Lloches a Mewnfudo 1999. Mae hyn yn darparu llety a naill ai prydau bwyd neu dalebau – dim arian parod.

Mae llawer o'r ceiswyr lloches a gafodd eu gwrthod yn darganfod na fedrant ddychwelyd i'w cartref oherwydd nad oes llwybr dychwelyd diogel neu oherwydd y byddai eu bywydau mewn perygl. Mewn rhai achosion, derbynnir hyn gan y llywodraeth. Mae ceiswyr lloches eraill a gafodd eu cais wedi ei wrthod yn rhy ofnus i ddychwelyd oherwydd y posibilrwydd o erledigaeth neu am fod eu gwlad yng nghanol terfysg neu ryfel.

Campaign design by Cactus, website development and hosting Core Multimedia