Gwlad i mi a Gwlad i ti… Maniffesto ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cyrraedd Cymru i chwilio am le diogel rhag erledigaeth. Mae'r mwyafrif yn dod o wledydd sy'n dioddef gan wrthdaro neu â record hawliau dynol gwael, fel Pacistan, Somalia, Irac, Iran a Thwrci. Mae Confensiwn Ffoaduriaid 1951 yn gwarantu bod gan bawb yr hawl i wneud cais am loches ac mae wedi arbed miliynau o fywydau. Mae'r DU yn gartref i 3% yn unig o ffoaduriaid y byd. Rydym yn rhannu cyfrifoldeb byd eang i ddiogelu ffoaduriaid.
Mae Cymru'n elwa'n fawr o'r cyfraniad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ei wneud i'n cymdeithas. Yn drist, mae camddealltwriaethau sylfaenol am ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn eang iawn ac maen nhw'n arwain at gasineb a chamwahaniaethu.
Fel arweinwyr yn ein cymunedau, mae cyfrifoldeb ar wleidyddion i roi gwybodaeth gywir ac i herio mythau peryglus am faterion lloches a ffoaduriaid. Rydym yn ffodus yng Nghymru i gael rhai arweinwyr cadarn yn y maes hwn.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod ymgyrchu gwleidyddol yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2008 yn cryfhau yn hytrach na rhannu cymunedau ar draws Cymru a byddwn yn gofyn i ymgeiswyr arwyddo'r datganiad canlynol:
"Addawaf i beidio â defnyddio delweddau negyddol o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn yr ymgyrch nesaf ar gyfer yr etholiad. Byddaf yn ceisio hybu gwell dealltwriaeth o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru."
Gallwch lawr taflen datganiad yn Saesneg neu Gymraeg.
Gallwch lawr lwytho taflen yma i'ch helpu i ymgyrchu'n gadarnhaol ar faterion lloches a mewnfudo, lawrlwythwch enghraifft o lythyr mewn fformat Word
neu PDF
.
Mae'r ymgeiswyr canlynol wedi arwyddo'r datganiad. A fyddech chi cystal â gwirio i weld a yw eich ymgeiswyr lleol wedi arwyddo. Gallwch lawr lwytho llythyr yma i ysgrifennu at eich ymgeiswyr.
Diolch i'r holl ymgeiswyr hynny sydd wedi addo eu hymrwymiad.
| Cyngor | Ward | Ymgeiswyr | Plaid |
|---|---|---|---|
| Caerdydd | Grangetown | Ioan Bellin | Plaid Cymru |
| Caerdydd | Grangetown | Patrick Oaley | Plaid Cymru |
| Ogmore | Nantyfyllon | Lynne Beedle | Llafur |
| Wrecsam | Eileen Thomas | Llafur | |
| Penybont | Brackla | D Sage | Llafur |
| Wrecsam | Grosvenor | Susan Allen | Llafur |
| Cannle | Thomas Tucker | Llafur | |
| Caerffili | Richard Pugh | Llafur | |
| Swansea | Uplands | Steve Clegg | Green Party |
| Swansea | Sketty | Patricia Jones | Green Party |
| Swansea | Killay South | Peter K Jones | Green Party |
| Swansea | Uplands | Holly Machin | Green Party |
| Swansea | Uplands | Andrew Smith | Green Party |
| Swansea | Penderry | Tony Young | Green Party |
| Swansea | Penderry | Linda Beynon | Green Party |
| Caerphilly | St James | Lynne Hughes | Plaid Cymru |
| Cardiff | Lisvane Ward | Paul Jeffries | Labour |
Campaign design by Cactus, website development and hosting Core Web Design