Gwlad i mi a Gwlad i ti… Maniffesto ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
Mae Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yn cynnig llawer iawn i gymunedauu ar draws Cymru ond maen nhw ymhlith y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas heddiw. Mae llai na 2,500 o bobl yn ceisio lloches yng Nghymru - mae hynny'n llai na 0.1% o gyfanswm y boblogaeth- a thua 10,000 o ffoaduriaid. Mae nifer yn byw mewn tlodi dychrynllyd ac angen cymorth i'w helpu i ailadeiladu eu bywydau.
Cyn Etholiadau'r Cynulliad 2007, roedd gwleidyddion yn y bedair brif blaid yng Nghymru wedi addo cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac yn ymrwymo i wella bywydau pobl fregus yng Nghymru. Roedden ni'n gofyn i'r pleidiau a'u hymgeiswyr arwyddo i bum addewid. Roedd y pedair plaid yn helpu i weithredu'r addewid gyntaf drwy addo peidio ag ymgyrchu'n negyddol ar faterion lloches a mewnfudo. Fel partneriaid yn yr ymgyrch hwn, rydym yn falch i glywed tôn groesawus y ddadl a'r gydnabyddiaeth fod yn rhaid i ni gynnig help llaw i bobl fregus sy'n ceisio diogelwch rhag erledigaeth.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal trafodaethau cadarnhaol gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i symud ymlaen i weithredu'r pedair addewid arall. Edrychwn ymlaen at groesawu cyhoeddiad yn fuan.
Yn 2008, roeddem eto'n gofyn i arweinwyr y pleidiau yng Nghymru ac ymgeiswyr unigol ddangos eu cefnogaeth a'u hymrwymiad i beidio ag ymgyrchu'n negyddol ar faterion lloches a mewnfudo.
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Rhodri Morgan, Ieuan Wyn Jones, Nick Bourne a Mike German wedi cefnogi'r alwad hon.
Os hoffech ein cynorthwyo, a fyddech chi cystal ag ysgrifennu at eich ymgeiswyr lleol i ofyn iddyn nhw addo eu cefnogaeth. Gallwch weld yr addewid yma.
Campaign design by Cactus, website development and hosting Core Multimedia